Cymerwch Ran 2025
Mae Cymerwch Ran yn ôl, yn fyw, gyda’n gilydd ar 11 a 12 Ionawr!
Mae ein digwyddiad blynyddol sy’n canolbwyntio ar y celfyddydau, llenyddiaeth a gwyddoniaeth yn ôl yn Venue Cymru gyda gweithdai a digwyddiadau anhygoel.
O gelf a chrefft i ddawns a drama, mae rhywbeth i bawb o bob oed. Mae uchafbwyntiau’r penwythnos isod, a bydd mwy yn cael eu hychwanegu’n fuan. A bydd llawer mwy i’w wneud pan fyddwch yn cyrraedd ar y diwrnod.
Diolch yn arbennig i’n holl noddwyr am wneud y digwyddiadau hyn yn bosib.