Dydd Sadwrn & Dydd Sul
Cymerwch Ran - Sesiwn Flasu Darllen ar y Cyd i Oedolion
Sesiwn Galw Heibio
Mae darllen ar eich pen eich hun yn rhoi llawer o foddhad, ond gall darllen gydag eraill fod yn brofiad yr un mor bleserus ac ysbrydoledig. Beth am rannu stori fer neu gerdd gydag eraill mewn amgylchedd hamddenol a chyfeillgar?
Fe allwch chi wrando a mwynhau neu gymryd y cyfle i ddarllen yn uchel eich hun. Mae mwynhau llyfrau mewn grŵp yn gadael i chi rannu eich syniadau a’ch brwdfrydedd am y testun, yn ogystal â rhoi cyfle i chi ddal i fyny a sgwrsio gyda ffrindiau.
Mae ein grwpiau Darllen ar y Cyd yn rhoi cyfle i chi dysgu mwy amdanoch eich hun ac am eraill drwy fwynhau rhannu darnau gwych o lenyddiaeth. Maen nhw’n rhad ac am ddim, ac mae lluniaeth ar gael.
Cynhelir gan y Tîm Llyfrgelloedd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy