Dydd Sadwrn & Dydd Sul
Cymerwch Ran - Gweithdai Crochenwaith â Llaw gyda Ceramics Wales
Sesiwn Galw Heibio
-
Am ddim
Gweithdai Crochenwaith â Llaw. Dewch i fwynhau chwarae â chlai!
Gwnewch deilsen neu ddwy a defnyddio amryw wahanol offer i greu marciau yn y clai.
Gallwch wneud beth bynnag y dymunwch – potiau torchog, potiau slab, delwau, cerfluniau o adar ac anifeiliaid, eich teulu a’ch ffrindiau. Mae clai’n anhygoel!
Ewch â’ch gwaith adref, ei roi yn y popty a’i beintio (ar ôl iddo sychu).