Gyda’r Cartwnydd o’r Guardian Harry Venning.
Mae gan bawb gartwnydd ynddynt yn rhywle. Gadewch i mi ryddhau eich cartwnydd chi yn y gweithdai hwyliog, rhyngweithiol a chynhwysol hyn i bob oedran a gallu.
Dysgwch sut i droi darn o bapur diflas yn ffrwydrad o ddelweddaeth, yn ffair o sŵn a llwyth o gyffro. Dysgwch beth i’w wneud â swigod, sut i osod aeliau i gael yr effaith fwyaf a beth ddywedodd y Brodyr Eskimo wrth ei gilydd yn y jôc ddoniolaf erioed (efallai).
I’r teulu oll. Heblaw y rhai blin.