Bydd y Bubble Wizard yn creu swigod sydd cyn lleied â morgrugyn neu mor fawr ag eliffant.
Bydd yn creu cerfluniau swigod syfrdanol o flaen eich llygaid, yn chwythu mwg drwy hud i mewn i'r swigod ac yn eich rhoi chi, eich ffrindiau, eich plant a’u hewythr i mewn yn y swigod.
A thric gorau’r Bubble Wizard? Troi oedolion yn blant a phlant yn blant hapus drwy gyffro a rhyfeddod swigod!