Ymunwch â’r tiwtor, Colin Daimond am sesiwn drymio llawn dop o hwyl a rhythm! Biniau, bwcedi ac olwynion beiciau sy’n cadw’r curiad!
Mae “Ffynci Jync” yn fand sy’n perfformio’n broffesiynol ond hefyd yn dîm o gerddorion sy’n cynnal gweithdai addysgiadol mewn ysgolion a gwyliau drwy greu a defnyddio offerynnau wedi’u gwneud o hen bethau wedi’u hailgylchu.
Ers bod yn un o sylfaenwyr Samba Bangor ym 1995, bu Colin yn crwydro’r byd yn addysgu Offerynnau Taro Jync, Cerddoriaeth Carnifal a Drymio â Llaw ac yn astudio amrywiaeth helaeth o arddulliau drymio traddodiadol mewn gwahanol wledydd.