Mae ‘In the Night Garden Live’ yn dod i Venue Cymru, Llandudno yn 2025!
Mae Igglepiggle, Upsy Daisy, Makka Pakka a’u ffrindiau yn ôl ar gyfer eu sioe fyw hwyliog, Igglepiggle’s Busy Day! Ymunwch ag Igglepiggle wrth iddo chwilio am ei ffrindiau yn yr ardd gan ddilyn synau doniol nes y daw o hyd i bawb!
Fe welwch eich hoff gymeriadau i gyd yn dod yn fyw gyda gwisgoedd maint llawn, pypedau hudolus, a cherddoriaeth hyfryd. Mae’r sioe’n para ychydig dan awr a bydd eich plantos yn rhyfeddu yn ystod ymweliad arbennig gan y Pinky Ponk anhygoel yn hedfan trwy’r awyr.
A hithau ar ei unfed flwyddyn ar bymtheg, mae sioe ‘In the Night Garden Live’ yn un o hoff ddigwyddiadau teuluol y DU. Mae dros filiwn o bobl wedi’i gweld hyd yma ac mae’n cael 4.8 allan o 5 seren yn seiliedig ar adolygiadau 13,789 o rieni.
Mae sioeau eraill ar gyfer plant ifanc ond fel yr ysgrifennwyd ym mhapur yr Independent, “does dim byd yn debyg i In the Night Garden Live.” Pip-pip, onk-onk!