Cinderella
-

Cinderella

-
Gwerthiant cynnar Cerdyn Premier

Dewch i ymuno â ni yn Venue Cymru ar gyfer y panto anhygoel i’r teulu, Cinderella! 

Mae Cinderella druan yn gweithio ddydd a nos, ond mae’n breuddwydio am fywyd gwahanol iawn a gyda gwahoddiad i’r ddawns frenhinol, mae’n ymddangos y bydd ei dymuniad yn cael ei wireddu. A fydd ei Llyschwiorydd Drwg yn llwyddo i ddifetha breuddwydion Cinderella o hapusrwydd, neu a fydd ei Mam-ddewines a ffrind ffyddlon Buttons yn gallu rhwystro eu cynlluniau maleisus? Rhowch eich dillad gorau ymlaen ac ymunwch â ni yn y ddawns i ddarganfod mwy!

Bydd hoff stori ‘carpiau i gyfoeth’ pawb yn llawn o gomedi slapstic doniol, caneuon gwych a rhyngweithio gyda’r gynulleidfa.

Mae’r cloc yn tician felly sicrhewch eich tocynnau rŵan!

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event