Gwybodaeth am Archebu

Yma cewch wybodaeth am amseroedd agor, consesiynau a gwybodaeth am docynnau’n gyffredinol.

Swyddfa Docynnau: 01492 872000

Grwps: 01492 872001

Ar-lein: www.venuecymru.co.uk

Amseroedd agor y Swyddfa Docynnau

Gwasanaeth cownter

  • Dydd Llun – ddydd Sadwrn: 12pm - 4.30pm
  • Dydd Sul a Gwyliau Banc: Ar gau

Gwasanaeth ffôn

  • Dydd Llun – ddydd Sadwrn: 10pm - 4.30pm
  • Dydd Sul a Gwyliau Banc: Ar gau

Ar ddiwrnodau perfformiadau fe fydd yna wasanaeth cownter ar gael awr cyn i’r perfformiad ddechrau hyd at 15 munud wedi i’r llen godi.

Consesiynau a Gostyngiadau

Mae Venue Cymru a Theatr Colwyn wedi ymrwymo i wneud tocynnau cyn rhated â phosibl ar gyfer cymaint o bobl â phosibl. Rydym ni’n cynnig tocynnau rhatach ar gyfer perfformiadau penodol os ydych chi:

  • dan 16 oed
  • dros 60 oed

Rydym ni hefyd yn cynnig tocynnau am ddim i gyfeillion cwsmeriaid nad ydyn nhw’n gallu mynychu ar eu pen eu hunain - darganfyddwch fwy yma.

Bydd consesiynau wedi eu cyfyngu i berfformiadau, dyddiadau, amseroedd ac ardaloedd eistedd penodol. Fe ellir peidio â’u cynnig ar unrhyw adeg ac maen nhw’n amodol ar argaeledd. Bydd yn rhaid i chi ddangos prawf o gymhwyster wrth nôl y tocynnau.

O bryd i’w gilydd bydd Venue Cymru / Theatr Colwyn yn cynnig gostyngiadau/cynigion arbennig ar gyfer cwsmeriaid ar y rhestr bostio. Unwaith eto, fe ellir peidio â’u cynnig ar unrhyw adeg ac maen nhw’n amodol ar argaeledd. Nid oes modd newid tocynnau sydd wedi eu prynu eisoes am docynnau sy’n destun cynnig neu ostyngiad arbennig, ac ni ellir manteisio ar gynnig arbennig gydag unrhyw gynnig neu ostyngiad arall.

Dulliau Talu

Gellir talu am docynnau drwy siec, archeb bost, cerdyn credyd neu ddebyd. Dylid gwneud sieciau yn daladwy i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Ni fydd sieciau personol yn cael eu derbyn o fewn 10 diwrnod i’r perfformiad.

Ffioedd

Mae ffi weinyddu o £2 ac ardoll adfer theatr o £1 yn daladwy am bob tocyn gyda phob dull talu. Mae’r holl gyngherddau yn yr arena yn destun ffi gig, beth bynnag y dull talu, ac mae’n amrywio o ddigwyddiad i ddigwyddiad. Ni ellir ad-dalu ffioedd.

Ychwanegir yr ardoll adfer theatr o £1 at bob tocyn a werthir er mwyn cynnal a chadw ein hadeilad, talu costau rhedeg a gwella'r gwasanaethau rydym yn eu cynnig. Caiff hwn ei gynnwys yn y pris.

Polisi Babes in Arms

Ar y mwyafrif o gynyrchiadau nid yw’n ofynnol i blant 2 oed ac iau brynu tocyn cyn belled â’u bod yn eistedd ar lin rhiant/gwarchodwr.   Bydd rhai cwmnïau sy’n ymweld yn nodi eu polisi eu hunain sy’n wahanol i’n polisi ni, os mai dyma’r achos bydd yn cael ei nodi’n glir ar dudalen y digwyddiad cyn archebu. 

Booking Protect

Drwy weithio gyda Booking Protect rydym yn cynnig diogelwch ar bryniant tocynnau os na fyddwch yn gallu bod yn bresennol, er enghraifft o ganlyniad i salwch, argyfwng neu anaf. 

Os ydych wedi prynu diogelwch byddwch yn derbyn e-bost i gadarnhau gyda dolen i’r telerau ac amodau llawn sy’n cynnwys sut i hawlio os byddwch angen gwneud hynny.  Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y wybodaeth hon yn llawn pan fyddwch yn prynu.

Gellir gweld Telerau ac Amodau Booking Protect yma hefyd - https://documents.bookingprotect.com/terms-and-conditions.pdf  Mae’r ddogfen hon i’w chael ar wefan Booking Protect.

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event