Cymerwch Ran -Kjartan Poskitt - Murderous Maths

Dydd Sul

Cymerwch Ran -Kjartan Poskitt - Murderous Maths

Book now

Mae cyfres ‘Murderous Maths’ Kjartan Poskitt wedi cael ei chyfieithu i dros 30 o ieithoedd, ac mae’r llyfrau eraill y mae wedi’u hysgrifennu yn cynnwys pump o sioeau cerdd llwyfan hanesyddol, yn ogystal â llyfrau ar Isaac Newton, Houdini, drysfeydd, codau, hud, posau, llyfrau llun a thros ugain o nofelau doniol gan gynnwys cyfres “Agatha Parrot”. Yn ogystal â theithio gyda’i sioeau llwyfan mathemateg, mae Kjartan hefyd wedi bod yn gyflwynydd teledu, cerddor, ac ar hyn o bryd mae’n rhedeg cwis lleol bob wythnos.

Murderous Maths

Ymunwch â’r awdur poblogaidd Kjartan i ddarganfod ochr hwyliog rhifau a siapiau, gan gynnwys triciau rhyfedd a gemau lle na allwch chi golli, a chyflwyno’r bobl hynny sy’n arwain at gysylltu llofruddiaethau â mathemateg. Bydd yn dangos ei fflecsagonau anhygoel a sut i lenwi’r bydysawd â hufen iâ. Mae hyd yn oed yn gallu gwneud twll mawr annherfynol mewn cerdyn post, a gwneud draig allan o docyn sinema yn defnyddio ychydig o fathemateg hud!

Mae llyfrau MURDEROUS MATHS Kartjan wedi gwerthu yn eu miliynau mewn mwy na 30 o wledydd ac mae ei sioeau mathemateg wedi cael eu disgrifio gan TES fel act sy’n gwneud i blant ac athrawon chwerthin yn uchel.

  • DYDD SUL 14 Ionawr | 12pm - 1pm
  • Y Neuadd
  • Oedran: 8-12 oed
Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event