Cymerwch Ran - Kjartan Poskitt
-

Sunday

Cymerwch Ran - Kjartan Poskitt

Murderous Maths & Runaway Pea

-
On sale soon

Mae cyfres ‘Murderous Maths’ Kjartan Poskitt wedi cael ei chyfieithu i dros 30 o ieithoedd, ac mae’r llyfrau eraill y mae wedi’u hysgrifennu yn cynnwys pump o sioeau cerdd llwyfan hanesyddol, yn ogystal â llyfrau ar Isaac Newton, Houdini, drysfeydd, codau, hud, posau, llyfrau llun a thros ugain o nofelau doniol gan gynnwys cyfres “Agatha Parrot”. Yn ogystal â theithio gyda’i sioeau llwyfan mathemateg, mae Kjartan hefyd wedi bod yn gyflwynydd teledu, cerddor, ac ar hyn o bryd mae’n rhedeg cwis lleol bob wythnos.

Runaway Pea

It’s six o’clock, we’re ready for tea… but look what’s that? It’s a Runaway Pea!  

Ymunwch â’r arwr bach gwyrdd ar ei anturiaethau sy’n mynd ag ef o gwmpas y gegin beryglus, i lawr twll plwg dirgel ac i fyny’n uchel i’r cymylau!  Mae cyfle bach slei i chi gwrdd ag arwr llyfr newydd Kjartan hefyd, sef “The Snowman’s Nose”, a chanfod beth sy’n digwydd pan fydd yn tisian! Cafodd llyfrau llun arobryn y ‘Runaway Pea’ eu dewis ar gyfer y cynllun “Time to Read” gan Booktrust a chawsant eu dosbarthu i dros 800,000 o blant a oedd yn dechrau’r ysgol ledled y DU.

  • DYDD SUL 14 Ionawr | 10.15am - 11am
  • Ystafell Padarn
  • Oedran: 3 - 7 oed

 

Murderous Maths

Ymunwch â’r awdur poblogaidd Kjartan i ddarganfod ochr hwyliog rhifau a siapiau, gan gynnwys triciau rhyfedd a gemau lle na allwch chi golli, a chyflwyno’r bobl hynny sy’n arwain at gysylltu llofruddiaethau â mathemateg. Bydd yn dangos ei fflecsagonau anhygoel a sut i lenwi’r bydysawd â hufen iâ. Mae hyd yn oed yn gallu gwneud twll mawr annherfynol mewn cerdyn post, a gwneud draig allan o docyn sinema yn defnyddio ychydig o fathemateg hud!

Mae llyfrau MURDEROUS MATHS Kartjan wedi gwerthu yn eu miliynau mewn mwy na 30 o wledydd ac mae ei sioeau mathemateg wedi cael eu disgrifio gan TES fel act sy’n gwneud i blant ac athrawon chwerthin yn uchel.

  • DYDD SUL 14 Ionawr | 12pm - 1pm
  • Y Neuadd
  • Oedran: 8-12 oed
Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event