Calamity Jane
-

Calamity Jane

gyda Carrie Hope Fletcher

-
Book Now

CHWIP O SIOE GERDDOROL!

Wel tawn i’n marw!  Casglwch y criw at ei gilydd yn barod am chwip o noson pan ddaw’r clasur o gomedi gerddorol, Calamity Jane, dros y paith i Landudno am wythnos yn unig. Wedi’i seilio ar y ffilm enwog gyda Doris Day, seren y cynhyrchiad ffansi hwn ydi Carrie Hope Fletcher, enillydd sawl gwobr am ei pherfformiadau yn y West End (Cinderella, Les Miserables), a bydd y sioe yn dechrau ei thaith o amgylch y DU ym mis Ionawr 2025.

Dewch i gyfarfod Calamity Jane eofn, y geg fwyaf yn nhiriogaeth Dakota, handi iawn efo gwn a bob amser yn barod i gwffio.  Mae ganddi’r ddawn i gyfareddu, yn enwedig wrth iddi geisio ennill calon Lefftenant Gilmartin golygus neu saethu geiriau sarhaus at Wild Bill Hickok ddrwg-enwog.  Ond pan mae dynion Deadwood yn gwirioni’u pennau efo Adelaid Adams, actores enwog o Chicago, mae Calamity’n cael trafferth rhoi ffrwyn ar ei chenfigen. Mae ei chalon hi’n curo - ond dros bwy?

Gyda chaneuon poblogaidd fel The Deadwood Stage (Whip-Crack-Away), The Black Hills of Dakota, Just Blew in From the Windy City, heb anghofio’r clasur Secret Love a enillodd Oscar, mae cynhyrchiad Watermill Theatr o Calamity Jane wedi’i gyfarwyddo gan Nikolai Foster, gyda Nick Winston yn gyfrifol am gyd-gynhyrchu a choreograffi a goruchwyliaeth gerddorol gan yr enillydd gwobrau Olivier, Grammy a Tony, Catherine Jayes

Peidiwch â gwastraffu amser!  Cleciwch y chwip ac ewch ati i archebu eich tocynnau rŵan!

 

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event