Miss Saigon
-

Miss Saigon

-
Book Now

Mae Michael Harrison mewn cydweithrediad â Cameron Mackintosh yn cyflwyno’r cynhyrchiad newydd ysblennydd o MISS SAIGON wrth i sioe gerdd chwedlonol Boublil Schönberg gael ei haileni. Mae'r sgôr yn cynnwys caneuon poblogaidd gan gynnwys; “The Heat is On in Saigon”, “The Movie in My Mind”, “Last Night of the World” a “The American Dream”.

Gan gychwyn ar Daith fawr yn y DU, bydd y cynhyrchiad epig hwn yn cyrraedd Venue Cymru ym mis Ionawr 2026.

Yn nyddiau olaf Rhyfel Fietnam, mae Kim, 17 oed, yn cael ei gorfodi i weithio mewn bar yn Saigon sy'n cael ei redeg gan gymeriad drwg-enwog o'r enw The Engineer. Yno mae hi'n cyfarfod ac yn syrthio mewn cariad â GI Americanaidd o'r enw Chris ond mae eu perthynas yn cael eu rhwygo'n ddarnau gan gwymp Saigon.  Am 3 blynedd mae Kim yn mynd ar daith epig o oroesi i ddod o hyd i'w ffordd yn ôl at Chris, sydd heb unrhyw syniad o gwbl fod ganddo fab.

  • Sylwch, mae’r cynhyrchiad hwn yn cynnwys golygfeydd o natur rywiol a threisgar, themâu adeg rhyfel, gynnau, iaith ddirmygus a bras, defnydd o gyffuriau a smalio ‘smygu sigaréts.
  • Mae'r cynhyrchiad hefyd yn cynnwys goleuadau strôb, saethiadau gwn, effeithiau sain uchel, niwl theatrig, a phyrotechneg.
Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event