Ein Gwasanaethau

Ein nod yma yn Venue Cymru yw sicrhau bod eich digwyddiad mor llwyddiannus ag y dylai fod.

Bydd rheolwr cyfrif yn cael ei ddyrannu i chi a fydd yn meddu ar wybodaeth ragorol o’r diwydiant a chynnyrch. Bydd y rheolwr cyfrif gyda chi trwy gydol y broses i’ch cynorthwyo i gynllunio eich digwyddiad.

Cofrestru Mae Venue Cymru yn cynnig gwasanaeth cofrestru ymroddedig sy’n gadael i chi, y sawl sy’n trefnu’r digwyddiad, fod yn rhydd o’r dasg lafurus o gofrestru pob cynrychiolydd a gadael i chi ganolbwyntio mwy ar faterion eraill. Gellir trefnu’r gwasanaeth hwn i arbed amser trwy gysylltu â’r Tîm Cynadledda ar 01492 879771 neu drwy anfon e-bost at cynadleddau@venuecymru.co.uk

Diogelwch Bydd angen i ddigwyddiadau penodol a gaiff eu hasesu gan reolwr y lleoliad neu o ganlyniad i ofynion trwydded safle gael goruchwylwyr drws a gaiff eu rheoleiddio gan Awdurdod y Diwydiant Diogelwch (SIA). I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â'ch rheolwr cyfrif neu ewch i wefan SIA.

Marchnata Os ydych yn bwriadu hyrwyddo eich digwyddiad mae nifer o gyfleoedd marchnata y gallwn eu cynnig. I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â’r adran Farchnata ar 01492 879 771 neu anfonwch e-bost at anwen.jones@venuecymru.co.uk

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event