Y Gorau o bob Byd Bosib
Mae Candide, gan Leonard Bernstein, yn antur wefreiddiol wyllt, lle mae bywyd yn Ffrainc yn ystod y ddeunawfed ganrif yn gwrthdaro â bywyd yn America yn yr ugeinfed ganrif, ar ôl y rhyfel. Cymerwch sedd, a pharatowch eich meddwl am daith droellog wrth i ni ruthro drwy fyd rhyfeddol yn llawn anhrefn - o gestyll yn yr Alpau, daeargrynfeydd yn Lisbon i'r jwngl Amasonaidd y tu hwnt i'r Wladfa.
Oherwydd y gymysgfa o ddawn gyfansoddol Bernstein a ffraethineb cignoeth Dorothy Parker, mae Candide yn waith egnïol sy'n dwyn ynghyd goreuon Broadway, eisin ar gacen opereta a dychan diamser nofel wreiddiol Voltaire. Mae cynhyrchiad clodwiw WNO wedi’i lwyfannu gan dîm penigamp, sy’n rhoi bywyd i'r byd dychmygol ac ecsentrig hwn gyda cherddoriaeth ddiweddar, animeiddiadau, dawns a brathiad gwleidyddol.
#WNOcandide
wno.org.uk/candide