Wicked Little Letters (15)

Wicked Little Letters (15)

Archebwch Nawr

Yn y comedi dirgel hwn, mae tref glan môr yn Lloegr yn wynebu sgandal ffarsaidd, a sinistr o bryd i’w gilydd, yn ystod y 1920au.

Yn seiliedig ar hanes gwir rhyfeddol, mae’r ffilm hwn yn dilyn dau gymydog: Edith Swan (Olivia Colman), dynes leol siaradus, a Rose Gooding (Jessie Bukley), ymfudwraig swnllyd o Iwerddon.

Pan fydd Edith a’i thrigolion lleol yn dechrau derbyn llythyrau cas llawn sylwadau anweddus a doniolwch anfwriadol, cyhuddir Rose â’i hiaith frwnt o’r drosedd. Mae’r llythyrau dienw’n arwain at stŵr cenedlaethol, a chyflwynir yr achos gerbron y llys. Fodd bynnag, wrth i ferched y dref - dan arweiniad Swyddog yr Heddlu Gladys Moss (Anjana Vasan) - ddechrau ymchwilio i’r drosedd eu hunain, maent yn amau bod rhywbeth o’i le, ac nad Rose sydd ar fai wedi’r cwbl.

Yn cynnwys iaith gref iawn, cyfeiriadau cryf at ryw, ymddygiad sy’n rheoli

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event