Mae The Waterboys wedi cael eu harwain gan y canwr a’r gitarydd o’r Alban, Mike Scott, ers y 1980au. Mae’r aelodaeth wedi amrywio llawer dros y blynyddoedd, ac maen nhw wedi ennill bri mawr am eu perfformiad mewn cyngherddau ar hyd y daith. Mae eu caneuon mwyaf adnabyddus yn cynnwys The Whole Of The Moon, How Long Will I Love You, This Is The Sea a Fisherman’s Blues.
’Does dim dadl nad dyma un o’r bandiau byw gorau yn y byd. Mae fersiwn 2024 The Waterboys yn cynnwys chwaraewyr allweddellau dwbl, Brother Paul o Femphis a James Hallawell o Gernyw, ac yn sail iddynt mae’r adran rythm Wyddelig, sef Aongus Ralston (gitâr fas) ac Eamon Ferris (drymiau). Maent yn ail-greu cerddoriaeth o bob cyfnod o yrfa’r band – o gyfnod cynnar y “gerddoriaeth fawr” a’r albwm Fisherman’s Blues, sydd wedi ei ysbrydoli gan eu gwreiddiau, i’r gyfres o recordiau o amrywiol genre sydd wedi llifo allan ers Modern Blues yn 2015 – gan chwarae cerddoriaeth yr enaid, ffync, roc gwledig, ymysg mathau eraill. Byddwch yn barod am ddrama, perfformiadau byrfyfyr, tân gwyllt cerddorol a chlasuron y Waterboys.
“Mae The Waterboys yn byw ar gyfer y profiad o ganu, ar gyfer teimlo ein cerddoriaeth yn datblygu a thyfu gyda phob cyngerdd. ’Does dim yn ein gwneud yn hapusach na gweld rhestr hir o ddyddiadau fel y rhain. Sut fydd y gerddoriaeth yn newid? Beth fydd yn digwydd sydd heb ddigwydd erioed o’r blaen? Faint o hwyl a gwefr allwn ni a’r cynulleidfaoedd ei gael? Dewch i ymuno â ni!” – Mike Scott