Yn 1974, gwnaeth perfformiad eiconig ABBA o Waterloo yng nghystadleuaeth Eurovision greu hanes wrth i’w buddugoliaeth nhw arwain at enwogrwydd rhyngwladol.
Ar eu taith newydd sbon, mae Thank ABBA For The Music yn dathlu noson enwog y ffenomenon pop byd-eang â chyngerdd byw arbennig i nodi 50 mlynedd ers y noson honno.
Bydd yn cynnwys holl ganeuon enwog ABBA yn cynnwys Dancing Queen, Mamma Mia, Super Trouper, Gimme! Gimme! Gimme! SOS, Take a Chance on Me, Voulez-Vous a Waterloo, wrth gwrs, a llawer iawn mwy!
Bydd cast deinamig o gantorion anhygoel, coreograffi disglair a thafluniad fideo rhyngweithiol ynghyd â hyn i gyd. Fe’ch anogir i archebu tocynnau mewn da bryd ar gyfer y noson hon sy’n argoeli i fod yn strafagansa llawn cyffro i bobl sydd wrth eu bodd ag ABBA ym mhobman.
Fel bob amser, mae gwisg ffansi ABBA a’r 70’s yn ddewisol… ond mae’n cael ei annog!