Straeon o'r Sêr
Mae The Sky At Night yn llyfr stori sy'n llawn o fythau a chwedlau. Ymunwch â’r awdur a'r storïwr Gillian Brownson wrth iddi archwilio’r straeon yma o’r sêr, rhai o Gymru ac eraill o bell; ond pob un yn dal y dychymyg wrth iddyn nhw ddisgleirio yn awyr y nos.
Y Chwedlau Cymreig, gyda deialog / caneuon Cymraeg:
Y Foneddiges mewn Coch (Yr Efeilliaid/Gemini) – Dydd Sadwrn 20 Mawrth
Addas i deuluoedd gyda phlant 5 oed a hŷn | Stori Saesneg gyda deialog Cymraeg.
Hyd: 8 munud | Themâu herwgydiad | Tarddiad: Cymru
Mae’r stori, sydd i’w chanfod yn wreiddiol yn y Mabinogion, yn mynd â ni i fyd arallfydol Annwn wrth i ni ddilyn brwydr dau ddyn dros un o ferched harddaf Ynys Prydain, Creiddylad (y ddynes goch). Mae’r ddau ddyn yn ymladd o hyd yng Nghytser yr Efeilliaid.
Yr Ychen Gorniog (Y Tarw / Taurus) – Dydd Sadwrn 27 Mawrth
Addas i deuluoedd gyda phlant 7 oed a hŷn | Stori Saesneg gyda deialog a chaneuon gwerin Cymraeg
Hyd: 12 munud | Angenfilod | Themâu marwolaeth
Tarddiad: Cymru
Mae cymeriadau’r stori hon yn tarddu o lyfr hynafol Llyfr Taliesin, ond mae’r stori ei hun yn llawer hŷn. Mae’n adrodd hanes trigolion Dyffryn Conwy yn gorchfygu’r Afanc dychrynllyd gydag ychen nerthol Hu Gadarn, sydd i’w weld yng nghytser y tarw hyd heddiw.
Y Chwedlau Rhyngwladol yw :
Andromeda – Y Foneddiges mewn Cadwyni (Groegaidd ) – Dydd Sadwrn 3 Ebrill
Addas i deuluoedd gyda phlant 7 oed a hŷn | Stori Saesneg | Hyd: 8 munud
Angenfilod | Themâu carcharu | Tarddiad: Gwlad Groeg
Dyma un o’r chwedlau Groegaidd enwocaf sydd wedi’i darlunio yn awyr y nos. Yn cynnwys rhai o gymeriadau mwyaf eiconig mytholeg Roegaidd, ymunwch â Perseus wrth iddo geisio achub Andromeda o grafangau’r Anghenfil Môr anferth.
Yr Aradr – Hanes yr Arth Fawr (Navajo) – Dydd Sadwrn 10 Ebrill
Addas i deuluoedd gyda phlant 7 oed a hŷn | Stori Saesneg | Hyd: 10 munud.
Themâu hela | Tarddiad: Gogledd America
Wedi’i hadrodd yn wreiddiol yn y pentrefi brodorol ar lannau afon Oswego, mae’r stori hon yn adrodd hanes hela’r Arth Fawr ledrithiol a dychrynllyd – ac mae’r helwyr i’w gweld hyd heddiw yng Nghytser yr Arth Fawr.
Bydd y ffeiliau sain ar gael am 10am ar y dyddiadau a restrir uchod ar y dudalen hon a thrwy ein cyfrif Soundcloud
The Horned Oxen (Taurus) - Saturday 27 March
Suitable for Families with children age 7+ | Story told in English with Welsh Dialogue and Welsh Folk Songs.
Run Time: 12 minutes | Monsters Themes | Death Themes | Origin: Wales
The origins of the characters in this story are associated with the ancient Book of Taliesin, though the story itself originated much later. It tells of how the people of the Conwy Valley defeated the troublesome Afanc with Hu Gadarn’s mighty Oxen, one of which can be seen still in the Taurus Constellation.
LISTEN NOW
The International Myths are:
Andromeda / The Chained Lady (Andromeda Constellation) Saturday, 3 April
Suitable for families with children age 7+ | Story told in English
Run Time 8 minutes | Monsters & Incarceration Themes | Origin: Greece
Originating in Greece, this story is one of the most famous of greek legends depicted in the night sky. Containing some of Greek mythology’s most iconic characters, join Perseus as he seeks to rescue Andromeda from a great Sea Monster.
The Big Dipper - The Story of the Great Bear (Navajo) - Saturday 10 April
Suitable for families with children age 7+ | Story Told in English
Run time: 11 minutes | Hunting Themes | Origin: North America
Originally told in the Native American villages along the Oswego river, this story follows the pursuit of the illusive and troublesome Great Bear, whose hunters can still be seen chasing him through the Big Dipper constellation.
The audio files will be available at 10am on the dates listed above on this page and through our Soundcloud account Venue Cymru | Free Listening on SoundCloud