Noson o glasuron y 60au yn cael eu perfformio gan Sounds Of The 60s All Star Band & Singers, dan ofal Tony Blackburn OBE.
Bob wythnos, mae gwrandawyr ar hyd a lled y DU yn tiwnio i mewn i BBC Radio 2 i wrando ar y DJ poblogaidd, Tony Blackburn yn chwarae caneuon gorau’r 60au. Rŵan mae Tony’n mynd â’i sioe Sounds of the 60s ar daith o amgylch y DU i ddathlu cerddoriaeth orau’r degawd disglair hwn.
Gyda straeon a chaneuon o ddeng mlynedd fwyaf eiconig miwsig, ffasiwn a diwylliant poblogaidd, bydd Sounds of the 60s yn dod â’r cyfnod cyffrous hwn yn fyw unwaith eto.
Bydd Sounds of the 60s All-Star Band and Singers yn perfformio caneuon gan Diana Ross & The Supremes, The Everly Brothers, Elvis, The Beatles, The Rolling Stones, The Beach Boys, The Walker Brothers, The Drifters, Stevie Wonder, Marvin Gaye, a llawer mwy.
Gyda 2024 yn nodi 60 mlynedd ers ei ddarllediad cyntaf ar yr orsaf answyddogol Radio Caroline South yn 1964, mae Tony Blackburn yn cael ei gofio fel y llais sy’n diffinio’r 1960au. Yn ystod ei yrfa anhygoel mae Tony wedi bod yn gyflwynydd ar BBC Radio 1 a Top of the Pops ac ers 2017 mae o wedi bod yn cyflwyno’r sioe hynod boblogaidd, Sounds of the 60s ar Radio 2.
Yn gefnogwr cerddoriaeth Soul y 60au brwd, mae Tony wedi ennill 37 o wobrau yn cynnwys dwy Wobr Aur am ei gyfraniad neilltuol i radio - yr unigolyn cyntaf erioed i ennill dwy o’r gwobrau cyflawniad oes yma. Tony hefyd gafodd ei goroni’n Frenin y Jyngl yng nghyfres gyntaf y rhaglen I’m a Celebrity - Get Me Out of Here.