Yn cynnwys Cerddorfa Fyw Fawr
Ar ôl y llwyddiant ysgubol y llynedd, mae’r Imperial Classical Ballet® yn dychwelyd i’r DU i gyflwyno eu cynhyrchiad rhyfeddol o Sleeping Beauty.
Stori Dylwyth Teg Oesol
Hoff stori pob plentyn, mae Sleeping Beauty yn stori hudolus o gariad, diniweidrwydd, dirgelwch a rhyfeddod. Wedi’i osod i gerddoriaeth anhygoel Tchaikovsky, mae’r bale clasurol hwn yn dod â bywyd i’r frwydr rhwng da a drwg mewn byd o ffantasi a rhyfeddod.
Mae’r cynhyrchiad syfrdanol yn cynnwys coreograffi arbennig, gwisgoedd gwych, a setiau hudolus, gan greu profiad bythgofiadwy ar gyfer cynulleidfaoedd o bob oed. Dewch i weld brwydr y Dylwythen Deg yn erbyn Carabosse ddrwg wth iddynt lunio ffawd y Dywysoges Aurora.
Yn seiliedig ar stori boblogaidd Charles Perrault, mae Sleeping Beauty yn dilyn taith y Dywysoges Aurora, a felltithiwyd yn ei bedydd gan Carabosse i bigo ei bys a marw. Mae ymyrraeth y Dylwythen Deg yn addasu ei ffawd - bydd yn cysgu am gan mlynedd yn lle marw.
Mae’r cynhyrchiad hyfryd o Sleeping Beauty yn disgleirio fel breuddwyd, gan swyno ac ysbrydoli cynulleidfaoedd. Mae’n brofiad perffaith i bawb, o gefnogwyr brwd y bale i’r rhai ieuengaf.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: www.imperial-ballet.co.uk