Wedi’i recordio o flaen cynulleidfa fyw
Yn enillydd dros 35 o wobrau, profwch y sioe gerdd wych na ddylid ei methu, SIX the Musical. Mae cast gwreiddiol y West End yn aduno yn Theatr y Vaudeville, Llundain o flaen cynulleidfa orlawn i ddangos eu talentau arbennig ac i ail-gyflwyno eu trawmâu Tuduraidd mewn recordiad sinematig llawn steil, sass, a chaneuon gwefreiddiol.
Mae’r sioe wedi’i gweld gan dros 3.5 miliwn o bobl ac wedi datblygu’n ffenomenon theatr fyd-eang ers iddi ailddiffinio ffiniau theatr gerddorol yn ei hymddangosiad gyntaf yng Ngŵyl Ymylol Caeredin. Mae’r sioe’n adrodd stori ryfeddol chwe gwraig Brenin Harri’r Wythfed wrth iddynt gamu allan o gysgod eu gŵr gwaradwyddus a chyflwyno eu naratifau eu hunain.
Wedi'i hysgrifennu gan Toby Marlow a Lucy Moss, mae'r sioe gerdd fodern yn rhoi llwyfan a llais i'r breninesau - Catherine of Aragon (Jarnéia Richard-Noel), Anne Boleyn (Millie O'Connell), Jane Seymour (Natalie Paris), Anne of Cleves (Alexia McIntosh), Katherine Howard (Aimie Atkinson), a Catherine Parr (Maiya Quansah-Breed) - yn yr unfed ganrif ar hugain gyda pherfformiadau heintus a phwerus, a gyda band ar y llwyfan, y Ladies in Waiting.
Mae’n cynnwys lefel gymedrol o gyfeiriadau rhywiol, iaith a chyfeiriadau byr at gam-drin rhywiol.
*Sylwer mai dim ond bwyd a diod sydd wedi’u prynu gan Theatr Colwyn y dylech eu bwyta a’u hyfed yma