The Roy Orbison Story

The Roy Orbison Story

Archebwch nawr

Yn syth o Theatr Adelphi yn y West End, mae ‘The Roy Orbison Story’ yn mynd â chi ar daith gerddorol i ddathlu enwogrwydd roc a rôl y “Big O” sydd wedi ennill gwobrau ‘Grammy’ 6 o weithiau ac sy’n un o athrylithoedd The Travelling Wilburys.

Mae beirniaid wedi disgrifio perfformiad Barry Steele fel y canwr, y cyfansoddwr a’r cerddor Americanaidd fel un “Incredible” (North West End) “Spinetingling” (What’s good to do.) Dywedodd The Stage fod y sioe yn “True, Identikit Brilliance”.

I gyfeiliant band 5 offeryn gwych, byddwch yn teithio trwy’r blynyddoedd o gyfnod Sun Records hyd at oes The Travelling Wilburys. Bydd y caneuon yn cynnwys yr holl glasuron fel Pretty Woman, Crying, I Drove All Night, You Got It, Only the Lonely, In Dreams, California Blue, Handle with Care, Rattled, Roll Over Beethoven a llawer mwy.

Mae cerddoriaeth Orbison, fel y dyn ei hun, wedi’i disgrifio fel un oesol, felly ymunwch â ni i ail-fyw hud operatig y dyn a gafodd y llysenw “The Caruso of Rock”.

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event