The Rocky Horror Show
-

The Rocky Horror Show

-
Archebwch Nawr

Yn barod i’ch cyffroi gyda golygfeydd hwyliog a phryfoclyd, daw sioe gerdd roc a rôl chwedlonol Richard O’Brien, The Rocky Horror Show i Landudno fel rhan o daith newydd o amgylch y byd, gyda seren Holby City ac enillydd Strictly Come Dancing, Joe McFadden, yn chwarae rhan y Narrator.

Wedi ei weld gan fwy na 35 miliwn mewn theatrau, mae The Rocky Horror Show yn rhoi hanes dau fyfyriwr coleg cwrtais a diniwed, Brad a’i ddyweddi Janet. Mewn tro ffawd, ar ôl i’w car dorri i lawr y tu allan i blasty bwganllyd tra’u bod ar y ffordd i ymweld â’u hen Athro coleg, maent yn cyfarfod Dr Frank-N-Furter. Mae hi’n antur na wnân nhw fyth ei anghofio, yn llawn hwyl, miri, ffrogiau a gwiriondeb.

Christopher Luscombe sy’n cyfarwyddo ac mae The Rocky Horror Show yn un parti mawr sy’n cynnwys clasuron tragwyddol fel Sweet Transvestite, Dammit Janet ac wrth gwrs yr un i symud y cluniau iddo, y Time Warp.

‘FIERCE AND FABULOUS FUN!’

Daily Express
Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event