Treuliwch awr wych, neu ddwy! Wrth i ni gyflwyno Radio GAGA i chi.
Byddwch yn rhan o noson heb ei hail wrth i ni gyflwyno’r cyngerdd rydych chi wedi bod yn breuddwydio amdano. Dathliad anhygoel o un o’r bandiau mwyaf sydd wedi bod ar y llwyfan erioed – Queen.
Gadewch i’ch hun fynd ac ymgollwch wrth i Radio GaGa ail-greu dwy awr hudolus yn fyw ar y llwyfan, gan ddathlu hud, hwyl a sbri dyddiau teithio'r band.
Byddant yn perfformio eich hoff ganeuon i gyd gan gynnwys, ‘Don’t Stop Me Now’, ‘I Want to Break Free’, ‘Somebody to Love’, ‘We Will Rock You’ ac wrth gwrs ‘Bohemian Rhapsody’.
Ymunwch â ni wrth i ni ganu am Radio Gaga!