Puss In Boots: The Last Wish (PG)
-

Puss In Boots: The Last Wish (PG)

-
Archebwch Nawr

Mae hoff gath pawb sy’n hoffi cyffro a champau peryglus yn dychwelyd.

Am y tro cyntaf ers dros ddegawd, mae DreamWorks Animation yn cyflwyno antur newydd ym myd Shrek pan mae herwr beiddgar Puss in Boots yn canfod bod ei angerdd am berygl a diystyriaeth o ddiogelwch wedi dweud arno. Mae Puss wedi defnyddio wyth o’i naw bywyd, er ei fod wedi anghofio’r union faint ar y ffordd. Mae cael y bywydau hynny’n ôl yn anfon Puss in Boots ar ei antur fwyaf erioed.

Mae Antonio Banderas, enwebai Academy Award® yn dychwelyd fel llais enwog Puss in Boots, fel y mae’n dechrau ar ei daith i’r Goedwig Ddu i ddod o hyd i’r Seren Ddymuno ac adfer y bywydau mae wedi’i golli. Ond dim ond un bywyd sydd ar ôl, bydd rhaid iddo ddarostwng ei hun a gofyn am gymorth gan ei gyn partner a’i nemesis: Kitty Softpaws hudol (Salma Hayek Pinault sydd wedi’i enwebu am Oscar®).

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event