Portraits of Dangerous Women (15)

Portraits of Dangerous Women (15)

Dangosiad Talu Faint Fynnoch

Archebwch Nawr

Mae bywydau tri dieithryn yn uno mewn damwain ffordd ryfedd. Ar ôl y cythrwfl cychwynnol, maent yn penderfynu delio â'r canlyniad heb gynnwys yr heddlu. Mae’r triawd annhebygol yn ffurfio cynghreiriau anarferol ac wrth i’w gorffennol ddatod, yn dod yn agosach fyth, gan ddarganfod yn annisgwyl ymdeimlad dwfn o garennydd.

Mae Portraits of Dangerous Women yn stori wyllt wedi'i gosod yng nghefn gwlad Lloegr. Yn llawn hiwmor, cymeriadau byrlymog ac ymdeimlad o anarchiaeth a bywyd.  Mae’r ffilm yn cynnwys cast serol Prydeinig gyda pherfformiadau rhagorol ar draws y cenedlaethau, o Yasmin Monet Prince (Then You Run), i Tara Fitzgerald (Brassed Off, Game of Thrones). Daw perfformiadau nodedig ychwanegol hefyd gan Annette Badland (Ted Lasso, Midsomer Murders) Mark Lewis Jones (Chernobyl), Jeany Spark (The Fifth Estate) a Sheila Reid (Benidorm, Brazil).

Yn cynnwys iaith gref.

 

 

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event