Ar ôl cyhoeddi 15 dyddiad ar gyfer ei sioe deithiol ym mis Ebrill a werthodd bob tocyn yn gynt nag erioed, mae Paul Weller wedi cadarnhau ail gymal ei daith yn 2024.
Mae’r daith 17 diwrnod trwy gydol mis Hydref a Thachwedd yn gweld Paul a’i fand yn perfformio ar draws lwyfannau ledled y sir ac yn cynnwys 2 noson yn Newcastle a Glasgow ac yna’n gorffen y daith yn yr Hammersmith Eventim Apollo enwog.
Gyda gyrfa sydd wedi rhychwantu 5 degawd a chatalog eang ac eclectig o ganeuon i’w mwynhau, gallwch ddisgwyl clywed caneuon newydd o albwm newydd Paul, ‘66’ (sy’n cael ei rhyddhau ar 24 Mai) ynghyd â’r hen ffefrynnau o’i ôl-gatalog.