Yn dilyn taith ryfeddol ledled y wlad y llynedd, mae’r grŵp harmoni lleisiol hwn sydd wedi cyrraedd brig y siartiau a gwerthu sawl miliwn yn dod â’r ‘AMSEROEDD DA’ yn ôl y gaeaf hwn... a hwn fydd eich dechrau swyddogol i’r Nadolig!
Dros y pedwar ar ddeg mlynedd diwethaf mae The Overtones wedi rhyddhau saith albwm stiwdio, wedi mwynhau llawer o deithiau sydd wedi gwerthu allan, wedi ymddangos ar nifer o raglenni teledu poblogaidd ac wedi bod yn brif berfformwyr mewn lleoliadau sy’n enwog ar draws y byd gan gynnwys Palladium Llundain, y Royal Albert Hall a hefyd wedi perfformio yn nathliad Jiwbilî Ddiemwnt ym Mhalas Buckingham.
Mae’r grŵp pedwar aelod, sy’n cynnwys Mark Franks, Darren Everest, Jay James a Mike Crawshaw yn fwyaf adnabyddus am eu lleisiau rhagorol, harmonïau perffaith, symudiadau dawns ddiymdrech sydd wedi’u hamseru’n berffaith, a’u steil arbennig, dymunol.
Mae’r daith yn addo bod yn barti o’r dechrau i’r diwedd, gan gynnwys caneuon i’r teulu cyfan - o ganeuon gwreiddiol megis ‘Gambling Man’ i glasuron gan artistiaid megis The Drifters, Stevie Wonder, Frankie Valli & The Four Seasons, a sawl un arall, YN OGYSTAL Â ffefrynnau Nadoligaidd a thraciau NEWYDD SBON.
“One of the UK’s most popular and prolific acts”
HELLO Magazine
“Perfect harmonies, just fabulous”
Sky News