Mae’r band roc eiconig Ocean Colour Scene yn dod a’u sioe fyw i Venue Cymru yn Llandudno.
Bydd yr enwog Echobelly a Pastel yn ymuno â’r band fel gwestai arbennig.
Yn adnabyddus am eu hegni trydanol a phresenoldeb byw anhygoel, mae Ocean Colour Scene yn parhau i ddominyddu’r sîn roc gyda’u sain unigryw. Mae’r band wedi bod yn un o’r rhai mwyaf rhyfeddol yn y byd roc modern ers tro byd – yn mynegi gobaith a llawenydd cymunedol gyda’r caneuon mwyaf positif y gallwch eu canu a’u clywed, gan danio torfeydd ledled y byd gyda’u hanthemau chwedlonol.
Mae Ocean Colour Scene yn dal i fod yn un o fandiau mwyaf llwyddiannus a phoblogaidd yr oes fodern, a dreuliodd chwe blynedd yn mireinio eu sain, cyn mynd ymlaen i oleuo’r parti Britpop yn y 90au, gan greu tri albwm a aeth i’r 5 uchaf - Moseley Shoals yn 1996, Marchin’ Already yn 1997 ac One From The Modern yn 1999, ynghyd â naw o senglau olynol a aeth i’r 20 uchaf gan gynnwys yr anfarwol ‘The Riverboat Song’, ‘The Day We Caught The Train’ a ‘Hundred Mile High City’ – cyfanswm o ddwy ar bymtheg o senglau a aeth i’r 40 Uchaf a chwe sengl a aeth i’r Deg Uchaf.