NT Live: The Motive and the Cue (15 TBC)

NT Live: The Motive and the Cue (15 TBC)

Archebwch Nawr

Drama newydd gan Jack Thorne wedi’i chyfarwyddo gan Sam Mendes

Mae Sam Mendes (The Lehman Trilogy) yn cyfarwyddo Mark Gatiss fel John Gielgud a John Gielgud fel Richard Burton yn y ddrama newydd a ffyrnig.

1964: Mae Richard Burton, sydd newydd briodi Elizabeth Taylor, yn mynd i chwarae’r brif ran mewn cynhyrchiad newydd ac arbrofol o Hamlet ar Broadway, dan gyfarwyddyd John Gielgud. Ond wrth i’r ymarferion fynd yn eu blaenau, mae dwy oes y theatr yn gwrthdaro a buan iawn mae’r cydweithio rhwng yr actor a’r cyfarwyddwr yn dechrau datod.

Wedi’i hysgrifennu gan Jack Thorne (Harry Potter and the Cursed Child) a’i dylunio gan Es Devlin (The Crucible), cafodd y ddrama newydd ei ffilmio yn y National Theatr, a welodd pob tocyn yn cael ei werthu. Mae’r ddrama hefyd wedi’i chydnabod fel y ddrama newydd orau gan yr Evening Standard.

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event