NT Live: Dr. Strangelove (15)

NT Live: Dr. Strangelove (15)

Archebwch Nawr

Dr. Strangelove wedi’i addasu ar y cyd gan Armando Iannucci wedi’i addasu ar y cyd a’i gyfarwyddo gan Sean Foley

Yn yr addasiad llwyfan cyntaf o gampwaith comedi Stanley Kubrick, Dr. Strangelove, mae Steve Coogan (Alan Partridge, The Trip, ac enillydd 7 BAFTA) yn chwarae pedair rôl wahanol. Pan fydd Cadfridog U.D. twyllodrus yn sbarduno ymosodiad niwclear, ceir ras swrrealaidd ble mae’r llywodraeth ac un gwyddonydd ecsentrig yn ceisio osgoi dinistr byd-eang.

Mae’r comedi dychanol yma’n cael ei arwain gan dîm creadigol clodfawr sy’n cynnwys yr enillydd Emmy Armando Iannucci (The Thick of It, Veep) a’r enillydd Gwobr Olivier Sean Foley (The Upstart Crow, The Play What I Wrote).

  • Sylwer mai dim ond bwyd a diod sydd wedi’u prynu gan Theatr Colwyn y dylech eu bwyta a’u hyfed yma
Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event