Drama newydd gan James Graham. Cyfarwyddwyd gan Rupert Goold.
Joseph Fiennes (The Handmaid’s Tale) sy’n chwarae rhan Gareth Southgate yn archwiliad gafaelgar James Graham (Sherwood) o’r wlad a’r gêm.
Mae’r wlad a roddodd enedigaeth i bêl-droed wedi magu patrwm poenus o golli. Pam na all gwŷr Lloegr lwyddo yn eu gêm eu hunain?
Gyda’r hanes gwaethaf o ran ciciau cosb yn y byd, mae Gareth Southgate yn gwybod bod arno angen meddwl agored, ac wynebu’r blynyddoedd o boen a gafodd, i arwain ei dîm a’i wlad i dir yr addewid.
Dyma ddrama newydd a gwefreiddiol wedi’i ffilmio’n fyw o lwyfan y National Theatre a’i chyfarwyddo gan Rupert Goold (Judy).