Noson gyda Nigel Owens MBE
-

Noson gyda Nigel Owens MBE

-
Book now

Mae’n bleser gennym gyflwyno noson i chi gydag un o brif Ddyfarnwyr Rygbi’r byd, Nigel Owens MBE.

Mae Nigel yn un o’r cymeriadau mwyaf dymunol a doniol yng ngêm yr Undeb Rygbi. Fe ddaw’r dyfarnwr, sy’n un o fawrion Rygbi’r Byd, i Venue Cymru i roi cipolwg i chi ar y dyn y tu ôl i’r chwiban a dweud rhai straeon am eich hoff chwaraewyr (a’r rhai nad ydych o bosibl yn eu hoffi cymaint).

Ef yw’r unig ddyfarnwr i’w benodi ar gyfer tair gêm derfynol Cwpan Heineken yn olynol a bydd yn enwog ac yn cael ei edmygu am byth am arddangos hiwmor sych a ffraethineb wrth ymdrin â chwaraewyr yng ngwres y frwydr.

Wrth iddo adrodd straeon yn ymwneud â’i fywyd a’i yrfa mae hon felly yn noson na ddylai unrhyw un sy’n hoff o chwaraeon ei cholli.

Hefyd bydd cyfle am sesiwn Holi ac Ateb yn ail hanner y noson.

* Noder os gwelwch yn dda y gallai fod yna ychydig o iaith gref.
Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event