Polisi Preifatrwydd

Trosolwg

Mae cynnal diogelwch eich data yn flaenoriaeth i ni yn VENUE CYMRU a THEATR COLWYN, ac rydym wedi ymrwymo i barchu eich hawliau preifatrwydd. Rydym yn addo trin eich data yn deg ac yn gyfreithlon bob amser. Mae VENUE CYMRU a THEATR COLWYN hefyd wedi ymroi i fod yn dryloyw ynglŷn â pha ddata y byddwn ni’n ei gasglu amdanoch a sut y byddwn ni’n ei ddefnyddio.

Mae’r polisi hwn, sy’n gymwys p’un ai ydych chi’n defnyddio ein siop(au), eich dyfais symudol neu’n mynd ar lein, yn rhoi gwybod i chi:

  • sut y byddwn ni’n defnyddio eich data;
  • pa ddata personol y byddwn ni’n ei gasglu;
  • sut y byddwn ni’n sicrhau ein bod yn cynnal eich preifatrwydd; ac
  • am eich hawliau cyfreithiol mewn perthynas â’ch data personol.

Sut fyddwn ni'n defnyddio eich data?

Cyffredinol

Bydd Venue Cymru a Theatr Colwyn (a phartneriaid dibynadwy sy’n gweithredu ar ein rhan) yn defnyddio eich data personol:

  • i ddarparu nwyddau a gwasanaethau i chi;
  • i greu gwefan wedi’i haddasu i chi;
  • i reoli unrhyw gyfrif(on) cofrestredig sydd gennych chi gyda ni;
  • i wirio pwy ydych chi;
  • gyda’ch caniatâd, i gysylltu â chi’n electronig ynglŷn â chynigion arbennig a nwyddau a gwasanaethau y tybiwn ni fyddai o ddiddordeb i chi;
  • er dibenion ymchwil i'r farchnad – i ddod i ddeall eich anghenion yn well;
  • i alluogi Venue Cymru i reoli ei gysylltiadau gwasanaeth cwsmeriaid â chi; a
  • lle mae gennym hawl neu ddyletswydd cyfreithiol i ddatgelu eich gwybodaeth (er enghraifft mewn perthynas ag ymchwiliad awdurdod cyhoeddus neu mewn anghydfod cyfreithiol).

Marchnata

Gohebiaeth hyrwyddol

Mae Venue Cymru a Theatr Colwyn yn defnyddio eich data personol er dibenion marchnata electronig (gyda’ch caniatâd chi), a gallent anfon llythyr neu bost electronig atoch i’ch hysbysu am gynigion diweddaraf Venue Cymru a Theatr Colwyn.

Nod Venue Cymru a Theatr Colwyn yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y cynhyrchion a’r gwasanaethau sydd o ddiddordeb ac yn berthnasol i chi fel unigolyn.

Mae gennych chi hawl dewis peidio â derbyn gohebiaeth hyrwyddol ar unrhyw bryd drwy:

  • newid eich dewisiadau marchnata yn eich cyfrif Venue Cymru a Theatr Colwyn;
  • defnyddio’r ddolen “datdanysgrifio” syml mewn negeseuon e-bost neu’r rhif “STOP" ar gyfer negeseuon testun; ac/neu
  • gysylltu â Venue Cymru neu Theatr Colwyn drwy’r dulliau cysylltu a nodir yn y Polisi hwn.

Fe allem ni ddadansoddi eich gweithgarwch pori a phrynu, ar lein ac yn y siop, yn ogystal â’ch ymatebion i ohebiaeth marchnata. Bydd canlyniadau’r dadansoddiad hwn, ynghyd â data demograffig arall, yn ein galluogi i sicrhau ein bod yn cysylltu â chi gyda gwybodaeth am gynhyrchion a chynigion sy’n berthnasol i chi. I wneud hynny, byddwn yn defnyddio meddalwedd a thechnoleg arall (prosesu awtomataidd).

Rhannu data gyda phobl eraill

Ein darparwyr gwasanaethau a'n cyflenwyr

Er mwyn gwneud yn siŵr bod gwasanaethau penodol ar gael i chi, efallai y bydd angen i ni rannu eich data personol gyda rhai o’n partneriaid gwasanaeth. Mae’r rhain yn cynnwys darparwyr gwasanaethau TG, cyflenwi a marchnata.

Ni fydd Venue Cymru na Theatr Colwyn yn caniatáu i’w ddarparwyr gwasanaethau drin eich data personol tan y byddwn wedi cadarnhau eu bod yn defnyddio rheolaethau diogelwch a diogelu data priodol. Byddwn hefyd yn gosod rhwymedigaethau dan gontract ar ddarparwyr gwasanaethau mewn perthynas â diogelwch a diogelu data, sy’n golygu mai dim ond i ddarparu gwasanaethau i Venue Cymru/Theatr Colwyn ac i chi y gallan nhw ddefnyddio eich data, ac nid er unrhyw ddiben arall.

Unrhyw bobl eraill

Ni fydd Venue Cymru na Theatr Colwyn yn datgelu eich data personol i unrhyw bobl eraill, ac eithrio’r rhai a nodir isod. Wnawn ni byth werthu na llogi data ein cwsmeriaid i sefydliadau eraill er dibenion marchnata.

Fe allem ni rannu eich data gyda:

  • cwmnïau postio y byddwn ni’n eu defnyddio i gynnal gweithgarwch marchnata; bydd y data hwn yn cael ei brosesu yn unol â’r cytundeb prosesu data;
  • asiantaethau gwirio credyd os bydd angen gwneud hynny ar gyfer taliadau cerdyn;
  • cyrff llywodraethu, rheoleiddwyr, asiantaethau gorfodi'r gyfraith, llysoedd/tribiwnlysoedd ac yswirwyr, lle mae gofyn i ni wneud hynny: -
  • i gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol;
  • i arfer ein hawliau cyfreithiol (e.e. mewn achosion llys);
  • i atal, datgelu neu ymchwilio i drosedd neu erlyn troseddwyr; ac
  • i ddiogelu ein gweithwyr a’n cwsmeriaid.

CBSC

Mae'n ofyniad cyfreithiol bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn diogelu’r cyllid cyhoeddus mae’n ei ddyrannu ac felly gall ddefnyddio unrhyw wybodaeth a ddarparwyd gennych i atal, datgelu ac ymchwilio i dwyll ac afreoleidd-dra.  Ar gyfer perfformiad contract, neu dasg, a wneir er budd y cyhoedd ac i gydymffurfio gyda rhwymedigaeth gyfreithiol. Y sail gyfreithio yw Rhan 6 o Ddeddf Archwiliad Lleol ac Atebolrwydd 2014 a Rheoliadau Cyfrifon ac Archwiliadau  (Cymru). 

Am faint o amser fyddwn ni’n cadw eich data?

Fyddwn ni ddim yn cadw eich data am fwy o amser nag sydd raid er y dibenion a nodir yn y Polisi hwn. Bydd gwahanol gyfnodau cadw yn berthnasol i wahanol fathau o ddata, ond y cyfnod hiraf y byddwn yn cadw unrhyw ddata personol yw 10 mlynedd.

Pa ddata personol fyddwn ni'n ei gasglu?

Gallai Venue Cymru gasglu’r wybodaeth ganlynol amdanoch chi:

  • eich enw;
  • eich manylion cyswllt: cyfeiriad post (gan gynnwys cyfeiriadau bilio a danfon), rhifau ffôn (gan gynnwys ffonau symudol) a chyfeiriad e-bost;
  • unrhyw bethau rydych chi wedi’u prynu neu eu harchebu;
  • eich gweithgarwch pori ar-lein ar wefannau Venue Cymru;eich cyfrinair/cyfrineiriau;
  • pan fyddwch chi’n prynu neu’n archebu gyda ni, manylion eich cerdyn talu;
  • eich dewisiadau o ran gohebiaeth a marchnata;
  • eich diddordebau, dewisiadau, adborth ac ymatebion i arolygon;
  • eich lleoliad;
  • eich gohebiaeth a’ch cysylltiadau â Venue Cymru; a
  • data personol arall sydd ar gael yn gyhoeddus, gan gynnwys unrhyw ddata rydych chi wedi’i rannu ar blatfform cyhoeddus (megis ffrwd Twitter neu dudalen Facebook gyhoeddus).

Nid yw’n gwefan wedi’i bwriadu ar gyfer plant ac nid ydym yn casglu data sy’n ymwneud â phlant yn fwriadol.

Nid yw hon yn rhestr gyflawn ac, mewn ambell i achos, efallai y bydd angen i ni gasglu data ychwanegol er y dibenion a nodir yn y Polisi hwn. Cesglir rhywfaint o’r data personol uchod yn uniongyrchol, er enghraifft, pan fyddwch chi’n sefydlu cyfrif ar-lein ar ein gwefannau neu'n anfon neges e-bost i'r tîm gwasanaethau cwsmeriaid. Cesglir data personol arall yn anuniongyrchol, er enghraifft, drwy eich gweithgarwch pori neu siopa. Efallai y byddwn ni hefyd yn casglu data personol gan bobl eraill sydd wedi cael eich caniatâd i basio eich manylion ymlaen i ni, neu o ffynonellau sydd ar gael yn gyhoeddus.

Sut fyddwn ni'n diogelu eich data?

Ein rheolaethau

Mae Venue Cymru wedi ymrwymo i gadw eich data personol yn saff a diogel.

Mae ein mesurau diogelwch yn cynnwys: -

  • amgryptio data;
  • asesiadau seiberddiogelwch rheolaidd ar bob un o’r darparwyr gwasanaethau allai fod yn trin eich data:
  • ymarferion cynllunio sefyllfaoedd a rheoli argyfyngau rheolaidd er mwyn bod yn barod i ymateb i ymosodiadau seiberddiogelwch a digwyddiadau diogelwch data;
  • rheolaethau diogelwch sy’n amddiffyn seilwaith TG cyfan Venue Cymru rhag ymosodiadau allanol a mynediad heb ei awdurdodi; a
  • pholisïau mewnol sy’n nodi ein dulliau gweithredu diogelwch data a hyfforddiant i weithwyr.

Beth allwch chi ei wneud i helpu diogelu eich data?

Ni fydd Venue Cymru byth yn gofyn i chi gadarnhau unrhyw fanylion cyfrif banc na cherdyn credyd dros e-bost. Os cewch chi neges e-bost yn gofyn i chi wneud hyn gan rhywun sy’n honni eu bod yn gweithio i Venue Cymru neu Theatr Colwyn, anwybyddwch y neges a pheidiwch ag ymateb.

Os ydych chi’n defnyddio dyfais gyfrifiadura mewn lleoliad cyhoeddus, rydym yn eich argymell i allgofnodi a chau porwr y wefan bob tro ar ôl gorffen sesiwn ar-lein.

Yn ogystal, rydym yn argymell y dylech chi gymryd y mesurau diogelwch canlynol i wella eich diogelwch ar-lein mewn perthynas â Venue Cymru/Theatr Colwyn ac yn fwy cyffredinol: ­-

  • cadwch gyfrineiriau eich cyfrifon yn breifat. Cofiwch y gall unrhyw un sy’n gwybod eich cyfrinair gael mynediad i’ch cyfrif.
  • wrth greu cyfrinair, defnyddiwch o leiaf 8 nod. Cyfuniad o lythrennau a rhifau sydd orau. Peidiwch â defnyddio geiriau geiriadur, eich enw, eich cyfeiriad e-bost na data personol arall y gellir cael gafael arno’n hawdd. Rydym hefyd yn argymell eich bod yn newid eich cyfrinair yn aml. Gallwch wneud hyn drwy fynd i’ch cyfrif, clicio ar ‘eich cyfrif’, clicio ar ‘eich data’ a dewis ‘newid cyfrinair’.
  • peidiwch â defnyddio’r un cyfrinair ar gyfer mwy nag un cyfrif ar-lein.

Eich hawliau

Mae gennych chi'r hawliau canlynol:

  • yr hawl i ofyn pa ddata personol sydd gennym ni amdanoch chi ar unrhyw amser;
  • yr hawl i ofyn i ni ddiweddaru a chywiro unrhyw ddata personol sydd gennym amdanoch chi sy’n hen neu’n anghywir, a hynny am ddim;
  • (fel y nodir uchod) yr hawl i ddewis peidio â derbyn unrhyw ohebiaeth marchnata y gallem ni ei anfon i chi.
  • Os hoffech chi arfer unrhyw rai o’r hawliau uchod, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion cyswllt isod.

Sail gyfreithiol i Venue Cymru a Theatr Colwyn brosesu data personol cwsmeriaid

Cyffredinol

Bydd Venue Cymru/Theatr Colwyn yn casglu ac yn defnyddio data personol cwsmeriaid am fod angen gwneud hynny i:

  • olrhain ein buddiannau cyfreithiol (fel y nodir isod);
  • cydymffurfio â’n dyletswyddau ac arfer ein hawliau dan gontract i werthu nwyddau i gwsmer; ac
  • i gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol.

Yn gyffredinol, dim ond mewn perthynas ag anfon gohebiaeth farchnata uniongyrchol i gwsmeriaid dros e-bost neu neges testun yr ydym yn dibynnu ar ganiatâd fel sail gyfreithiol i brosesu.

Mae gan gwsmeriaid hawl i dynnu eu caniatâd yn ei ôl ar unrhyw adeg. Os mai caniatâd yw’r unig sail gyfreithiol ar gyfer prosesu, byddwn yn rhoi’r gorau i brosesu data pan fydd y caniatâd yn cael ei dynnu yn ei ôl.

Ein buddiannau cyfreithlon

Y sail gyfreithiol arferol ar gyfer prosesu data cwsmeriaid yw ei fod yn angenrheidiol er buddiannau cyfreithlon Venue Cymru/Theatr Colwyn, sy’n cynnwys:-

  • gwerthu a chyflenwi nwyddau a gwasanaethau i’n cwsmeriaid;
  • diogelu ein cwsmeriaid, ein gweithwyr ac unigolion eraill a chynnal eu diogelwch eu hiechyd a’u lles;
  • hyrwyddo, marchnata a hysbysebu ein cynhyrchion a’n gwasanaethau;
  • anfon gohebiaeth hyrwyddol sy’n berthnasol ac wedi’i addasu i gwsmeriaid unigol (gan gynnwys gweinyddu ein cynllun ffyddlondeb);
  • deall ymddygiad, gweithgarwch, dewisiadau ac anghenion ein cwsmeriaid;
  • gwella cynhyrchion a gwasanaethau presennol a datblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd;
  • cydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoliadol;
  • atal, ymchwilio i a datgelu trosedd, twyll neu ymddygiad gwrthgymdeithasol ac erlyn troseddwyr, gan gynnwys cydweithio ag asiantaethau gorfodi'r gyfraith;
  • trin cysylltiadau, ymholiadau, cwynion neu anghydfodau cwsmeriaid;
  • rheoli hawliadau yswiriant gan gwsmeriaid;
  • diogelu Venue Cymru, ei weithwyr a’i gwsmeriaid drwy gymryd camau cyfreithiol priodol yn erbyn pobl eraill sydd wedi cyflawni troseddau neu sydd wedi torri eu rhwymedigaethau cyfreithiol i Venue Cymru.
  • trin unrhyw hawliadau cyfreithiol neu gamau gorfodi rheoliadol a gymerir yn erbyn Venue Cymru yn effeithiol; a
  • chyflawni ein dyletswyddau i’n cwsmeriaid, ein cydweithwyr, ein cyfranddalwyr a budd-ddeiliaid eraill.

Polisi Cwcis

Beth yw cwcis?

Fel y rhan fwyaf o wefannau, mae gwefannau Venue Cymru a Theatr Colwyn yn defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth. Ffeiliau data bychain yw cwcis a roddir ar eich cyfrifiadur neu ddyfais arall (fel ffonau clyfar neu ddyfeisiau llechen) wrth i chi bori’r wefan. Cânt eu defnyddio i ‘gofio’ pryd mae eich cyfrifiadur neu ddyfais yn mynd ar ein gwefannau. Mae cwcis yn hanfodol i weithredu ein gwefannau’n effeithiol ac i’ch helpu chi i siopa gyda ni ar lein. Cânt eu defnyddio hefyd i addasu’r cynhyrchion a’r gwasanaethau sy’n cael eu cynnig a’u hysbysebu i chi, ar ein gwefannau ac mewn mannau eraill.

Gwybodaeth a gesglir

Bydd rhai cwcis yn casglu gwybodaeth am ymddygiad pori neu brynu pan fyddwch chi’n mynd ar y wefan hon gyda'r un cyfrifiadur neu ddyfais. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am dudalennau rydych chi wedi edrych arnyn nhw, cynhyrchion rydych chi wedi’u prynu a’ch taith o amgylch y wefan. Ni fyddwn yn defnyddio cwcis i gasglu na chofnodi gwybodaeth am ein enw, eich cyfeiriad na manylion cyswllt eraill. Gall Venue Cymru a Theatr Colwyn ddefnyddio cwcis i fonitro eich ymddygiad pori a phrynu.

Sut mae cwcis yn cael eu rheoli?

Mae’r cwcis sy’n cael eu cadw ar eich cyfrifiadur neu ddyfais arall pan fyddwch chi’n defnyddio ein gwefannau wedi cael eu dylunio gan:

  • Venue Cymru/Theatr Colwyn, neu ar ran Venue Cymru/Theatr Colwyn, ac maent yn angenrheidiol i’ch galluogi chi i brynu pethau ar ein gwefan;
  • pobl eraill sy’n cydweithio â ni mewn rhaglenni marchnata; a
  • phobl eraill sy’n cyhoeddi hysbysebion baner ar y we ar ran Venue Cymru/Theatr Colwyn.

I beth y defnyddir cwcis?

Defnyddir cwcis yn bennaf: -

  • Er dibenion technegol sy’n hanfodol i weithredu ein gwefannau’n effeithiol, yn enwedig mewn perthynas â gwerthiannau ar-lein a gwe-lywio’r safle.
  • Er mwyn i Venue Cymru/Theatr Colwyn farchnata i chi, yn enwedig hysbysebion baner ar y we a diweddariadau wedi’u targedu.
  • Er mwyn galluogi Venue Cymru/Theatr Colwyn i gasglu gwybodaeth am eich patrymau pori a siopa, gan gynnwys monitro llwyddiannau ymgyrchoedd, cystadlaethau ac ati.
  • Er mwyn galluogi Venue Cymru/Theatr Colwyn i fodloni ei rwymedigaethau dan gontract i wneud taliadau i bobl eraill pan fo cynnyrch yn cael ei brynu gan rhywun sydd wedi mynd ar ein gwefan o safle y mae'r bobl hynny'n eu gweithredu.

Sut ydw i’n analluogi cwcis?

Os hoffech chi analluogi cwcis, bydd angen i chi newid eich gosodiadau pori gwefannau i wrthod cwcis. Bydd sut y gallwch chi wneud hyn yn dibynnu ar y porwr rydych chi’n ei ddefnyddio.

Beth fydd yn digwydd os byddaf i’n analluogi cwcis?

Mae hyn yn dibynnu ar pa gwcis y byddwch chi’n eu analluogi, ond yn gyffredinol, efallai na fydd y wefan yn gweithio'n iawn os byddwch chi'n troi'r cwcis i ffwrdd. Os mai cwcis pobl eraill yn unig y byddwch chi’n eu analluogi, ni fyddwch yn cael ei atal rhag prynu ar ein gwefannau ni. Os byddwch chi’n analluogi pob cwci, ni fyddwch chi’n gallu prynu ar ein gwefannau ni.

Defnyddio Camerâu Cylch Caeedig

Rydym yn monitro a recordio delweddau gan ddefnyddio camerâu cylch caeedig yn ein lleoliad. Rydym yn gwneud hyn at ddibenion atal trosedd a diogelwch y cyhoedd

Recordiadau o ymwelwyr i’n lleoliad

Mae’n bosibl y byddwn ni, neu drydydd parti rydym yn ei awdurdodi, yn recordio ffilm neu sain cyn neu ar ôl perfformiad ac/neu yn ein lleoliad o bryd i’w gilydd. Er y cymerwn gamau rhesymol i sicrhau y caiff ein hymwelwyr wybod am recordio felly wrth iddynt ddod i’r lleoliad, ac y cânt gyfle i osgoi recordiadau felly, wrth ddod i’r lleoliad rydych yn cydsynio i ni eich cynnwys chi ac unrhyw un sydd gyda chi (yn cynnwys plant) fod yn rhan o recordiadau fel hyn ac i ni ddefnyddio’r recordiadau hynny at unrhyw ddibenion masnachol rhesymol, sy’n cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i ddibenion marchnata a hyrwyddo. Ni chewch eich talu am eich cynnwys mewn recordiadau felly. 

Newidiadau i’n Polisi Preifatrwydd

Caiff unrhyw newidiadau a wnawn i'n polisi preifatrwydd yn y dyfodol eu rhoi ar y dudalen hon a chewch wybod amdanynt trwy e-bost lle bo hynny’n addas.

Manylion Cyswllt

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau sydd heb eu hateb yma am sut y mae Venue Cymru a Theatr Colwyn yn defnyddio eich data personol, neu os hoffech chi arfer eich hawliau mewn perthynas a’ch data personol, cysylltwch â ni mewn unrhyw un o’r ffyrdd canlynol:

  • ffoniwch ni ar: 01492 879771
  • anfonwch neges e-bost atom ni ar: info@venuecymru.co.uk
  • anfonwch lythyr i ni yn Venue Cymru, Y Promenâd, Llandudno, Conwy, LL30 1BB

Mae gennych chi hawl i gofnodi cwyn gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys manylion cyswllt, ar gael yn https://ico.org.uk/.

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event