Ministry of Sound Ibiza Anthems gydag Ellie Sax a’i Ffrindiau yw sioe fyw newydd sbon brand cerddoriaeth dawnsio mwyaf y byd.
Wedi’i gyflwyno gan Ellie Sax, daw saith o’r cerddorion gorau ynghyd, yn fyw ar y llwyfan, i ail-ddychmygu rhai o’r anthemau dawns gorau, lle daeth pob un ohonynt yn enwog ar ‘ynys wen’ Ibiza. Dyma baradwys i’r rhai hedonistaidd yn ein plith sy’n caru cerddoriaeth ‘house’.
Mae hon yn siwrnai trwy ddiwrnod arferol ar yr ynys barti, a fydd yn mynd â’r gynulleidfa o bartïon pwll i lolfeydd machlud haul, gan orffen yn y clybiau mawr. Bydd Ministry of Sound yn dod a’r curiadau Balearaidd i’r DU yr haf hwn, ac ni fydd raid i chi giwio mewn maes awyr!
Mwynhewch ail-fyw eich hoff anthemau, gan gynnwys traciau gan Faithless, Eric Prydz, Becky Hill, The Shapeshifters, Daft Punk, Robin S, Fisher a mwy.