Nikita Kuzmin Midnight Dancer

Nikita Kuzmin Midnight Dancer

Book now

Mae Nikita Kuzmin, seren Strictly Come Dancing a Big Brother, yn dod â’i sioe newydd sbon, Midnight Dancer, i’r llwyfan ar gyfer ei daith unigol gyntaf o amgylch y DU ac Iwerddon.

Ond dydy o ddim ar ei ben ei hun, mae ganddo gast talentog o ddawnswyr a chantorion i’w helpu i roi sioe nas gwelwyd ei thebyg o’r blaen, sy’n llawn dop o’n hoff ganeuon. Fe fydd hi’n noson llawn hapusrwydd, ewfforia ac, wrth gwrs, dawns o’r radd flaenaf.

Bydd Nikita’n ymuno â’r tîm y tu ôl i sioe Oti Mabuse: I Am Here a’r gyfres o dair sioe boblogaidd gan Johannes Radebe – mae Midnight Dancer yn argoeli i fod yn noson fythgofiadwy o adloniant.

Byddwch yn barod i weld Nikita fel nas gwelwyd erioed o’r blaen.

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event