The Night Sky Show

The Night Sky Show

Archebwch nawr

Gyda’i sioe wych lwyddiannus, sydd wedi cael canmoliaeth uchel, mae’r  seryddwr a’r awdur Adrian West (neu VirtualAstro), yn cyflwyno profiad gweledol gogoneddus sy’n procio’r meddwl i bawb sy’n edrych i fyny ac yn rhyfeddu.

NID OES ERIOED Y FATH HWYL WEDI’I GAEL GYDA’R BYDYSAWD!

Gan ddefnyddio effeithiau gweledol sgrin fawr anhygoel. Bydd The Night Sky Show yn mynd a chi ar daith wych ac epig ar draws y cosmos o’n hiard gefn nefolaidd.

Noson i unrhyw un sydd eisiau chwerthin, dysgu a mwynhau.

Perfformiad hwyliog, difyr a chofiadwy, a fydd yn eich helpu i ddeall a mwynhau’r ffurfafen uwchben a thu hwnt.

Sioe i bawb heb unrhyw wyddoniaeth ddofn na difrifol. Caiff ffuglen a ffaith wyddonol eu cyfuno a'u cyflwyno mewn ffordd hawdd a difyr.

NOSON I’W CHOFIO YNG NGWIR YSTYR Y GAIR

Profiad theatrig ysblennydd i bawb. Siwrnai o amgylch y cytserau, y sêr, y planedau a mwy. Gyda theithiau difyr, straeon, a phosibiliadau diddiwedd ein dyfodol gydag awyr y nos a thu hwnt.

Cyflwynir gan Adrian West - Seryddwr, cyflwynydd ac awdur angerddol a phrofiadol. Yn fwy adnabyddus fel VirtualAstro ar gyfryngau cymdeithasol. Mae ganddo un o'r cyfrifon annibynnol mwyaf ar Twitter ym maes seryddiaeth a’r gofod.

Mae Adrian wedi ysgrifennu erthyglau yn ymwneud â seryddiaeth a’r gofod ar gyfer cylchgronau gwyddoniaeth poblogaidd ar-lein ac yn fwy diweddar, ei lyfr newydd - The Secret World of Stargazing. Mae hefyd wedi ysgrifennu canllawiau ac erthyglau ar gyfer y BBC, y Swyddfa Dywydd a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i enwi dim ond rhai.

Os ydych chi’n un sy’n edrych i fyny a rhyfeddu, byddwch yn siŵr o fwynhau The Night Sky Show.

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event