Napoleon (15)

Napoleon (15)

Archebwch Nawr

Mae Napoleon yn ffilm epig gyffrous sy’n wledd i’r llygaid. Mae’n dangos esgyniad a chwymp yr eiconig Napoleon Bonaparte, Ymerawdwr Ffrainc, a bortreadir gan Joaquin Phoenix – actor sydd eisoes wedi ennill Oscar®. Crëwyd y ffilm fawr drawiadol hon gan y cyfarwyddwr gwych Ridley Scott, ac mae’n nodi siwrnai ddidostur Bonaparte tuag at bŵer drwy brism ei berthynas gaethiwus, danllyd, â’i gariad Josephine, gan ddangos ei dactegau milwrol a gwleidyddol llawn gweledigaeth yn rhai o’r golygfeydd mwyaf dynamig o frwydrau a ffilmiwyd erioed.

*Yn cynnwys rhyw, trais cryf gwaedlyd a manylion anafiadau

Sylwer mai dim ond bwyd a diod sydd wedi’u prynu gan Theatr Colwyn y dylech eu bwyta a’u hyfed yma.

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event