RED Entertainment, Cuffe & Taylor a Live Nation yn cyflwyno
Miss Americana - A tribute to Taylor Swift
Teyrnged i Taylor Swift
RED Entertainment, Cuffe & Taylor a Live Nation yn cyflwyno Miss Americana – A Tribute to Taylor Swift.
Camwch i fyd digymar Taylor Swift a’i sioe Eras wefreiddiol gyda’r anhygoel Xenna. Dyma ddathliad o gerddoriaeth, arddull a phresenoldeb llwyfan digymar y gantores bop eiconig. Mae perfformiad Xenna’n ymgorffori holl hanfodion nodedig Taylor Swift - ei llais, ei hedrychiad a’i charisma magnetig.
Bydd cynulleidfaoedd yn cael eu cludo i fyd Taylor Swift wrth iddynt ymuno mewn clasuron fel "Love Story," "Blank Space," and "Shake It Off." Gyda chopïau cwbl syfrdanol o’r gwisgoedd gwreiddiol, straeon cyfareddol a dawnswyr anhygoel, mae’r sioe yn rhoi profiad bythgofiadwy o daith ‘Eras’ Taylor Swift.
Pa un a ydych yn ffan Taylor Swift mawr neu’n rhywun sy’n caru cerddoriaeth wych, dyma deyrnged ddisglair i un o sêr mwyaf y byd. Byddwch yn barod i ail-fyw caneuon mwyaf poblogaidd Taylor Swift yn y sioe hon sydd mor agos at y gwreiddiol ag y gall fod!