Mike + the Mechanics

Mike + the Mechanics

Looking Back - Living the Years

Book now

Yn dilyn eu taith ‘Refuelled!’ yn 2023, a werthodd allan, Mae Mike and the Mechanics yn dychwelyd ar gyfer taith ‘Looking Back - Living The Years 2025’. Gan ddechrau ym Mawrth 2025 a pherfformio ar draws y DU, bydd y daith hon yn eu gweld yn chwarae eu caneuon mwyaf poblogaidd gan gynnwys ‘Over My Shoulder’, ‘The Living Years’ ac ‘All I Need Is A Miracle’, yn ogystal â rhai o draciau clasurol poblogaidd Genesis.

Meddai Mike Rutherford “Mae’n gyffrous cyhoeddi y byddwn yn cynnal taith The Mechanics eto. Roedd bod yn ôl ar daith gyda’r criw y llynedd yn bleser pur. Er bod pedair blynedd wedi mynd heibio, aethom yn ôl i’n hen ffyrdd, yr hen jôcs a’r hwyl fel nad oedd unrhyw amser wedi mynd heibio! Cawsom gymaint o hwyl ar ein taith ddiwethaf ac roedd y cynulleidfaoedd yn gynnes a chroesawgar. Pan chwaraeom ein sioe olaf yn Dusseldorf, fe wnaethom ni oll gytuno ein bod am ei wneud eto. Edrychwn ymlaen at eich gweld.”

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event