Matilda The Musical - Singalong (PG)

Matilda The Musical - Singalong (PG)

Archebwch Nawr

Warm up those vocal chords for the Matilda The Musical sing-a-long at Theatr Colwyn!

Mae Matilda Wormwood (Alisha Weir) yn ferch fach gyda chwilfrydedd, meddwl doeth a dychymyg byw - a’r rhieni gwaethaf yn y byd. Tra bod ei rhieni (Stephen Graham ac Andrea Riseborough) yn ddigon hapus yn gwylio’r teledu ac yn cyflawni cynlluniau amheus i wneud arian, mae hi wrth ei bodd yn ymgolli yn nhudalennau ei holl lyfrau. Tra’u bod nhw’n uchel, hunanol a chas, mae hi’n arsylwr distaw, yn cynllunio gweithredoedd bychain a drygionus o ddial a gwrthryfela.

Ar ôl cwrdd â’i hathrawes ysbrydoledig, Miss Honey (Lashana Lynch), mae Matilda yn cael ei hannog ac yn dechrau creu ei chwedlau rhyfeddol ei hun. Mae hi’n edrych ymlaen at fynychu Crunchem Hall, ond mae Matilda’n synnu wrth sylweddoli fod yr ysgol yn lleoliad bygythiol a gormesol wedi’i arwain gan y Pennaeth dychrynllyd Miss Trunchbull (Emma Thompson).

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event