MACBETH: David Tennant & Cush Jumbo (12A)

MACBETH: David Tennant & Cush Jumbo (12A)

Archebwch Nawr

Mae David Tennant (Doctor Who, Broadchurch) a Cush Jumbo (The Good Wife, Criminal Record) yn arwain cast arbennig yn y cynhyrchiad newydd o MACBETH gan Shakespeare, a gafodd ei ffilmio’n fyw yn Donmar Warehouse yn Llundain yn arbennig ar gyfer y sgrin fawr, ac a ddisgrifiwyd gan The Daily Telegraph fel ‘enthralling’.

Ceir cyfuniad o agosatrwydd annifyr a gweithredoedd milain a chyflym dan gyfarwyddyd Max Webster (Life of Pi, Henry V) yn yr hanes trasig hwn am gariad, llofruddiaeth a phŵer adnewyddu natur. Disgrifiwyd y perfformiad gan The Guardian fel ‘full of wolfish imagination and alarming surprise’.

Mae’r sinema 5.1 ymdrochol gyda system sain amgylchynol yn galluogi’r gynulleidfa i fynd i mewn i feddyliau teulu Macbeth gan ofyn y cwestiwn; a ydym ni, mewn gwirionedd, yn gyfrifol am ein gweithredoedd?

  • Sylwer mai dim ond bwyd a diod sydd wedi’u prynu gan Theatr Colwyn y dylech eu bwyta a’u hyfed yma
Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event