Lee (15)
-

Lee (15)

-
Archebwch Nawr

Mae LEE yn adrodd hanes Lee Miller, ffotograffydd Americanaidd. Yn benderfynol o gofnodi gwirionedd y drefn Natsïaidd, ac er gwaetha’r anfanteision yn erbyn gohebwyr benywaidd, llwyddodd Lee i gofnodi rhai o ddelweddau pwysicaf yr Ail Ryfel Byd, a thalodd bris personol enfawr am hynny.

Nid biopig yw’r ffilm hon, ond mae’n archwilio degawd mwyaf sylweddol bywyd Lee Miller. Fel dynes ganol oed, gwrthododd gael ei chofio fel model ac awen i artistiaid gwrywaidd. Heriodd Lee Miller ddisgwyliadau a rheolau’r cyfnod gan deithio i Ewrop i ohebu o flaen y gad. Yno, yn rhannol fel ymateb i’w thrawma cudd ei hun, defnyddiodd ei chamera Rolleiflex i roi llais i’r mud. Roedd yr hyn a gofnododd Lee ar ffilm yn Dachau ac ar draws Ewrop yn frawychus ac erchyll. Mae ei ffotograffau o’r Rhyfel, ei ddioddefwyr a’i ganlyniadau yn dal i fod ymhlith y rhai mwyaf arwyddocaol a hanesyddol bwysig o’r Ail Ryfel Byd. Newidiodd hi ffotograffiaeth rhyfel am byth, ond talodd Lee bris personol enfawr am yr hyn a welodd a’r straeon y brwydrodd i’w hadrodd.

Yn cynnwys delweddau o’r Holocost, iaith gref, trais rhywiol a manylion byr am anafiadau.

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event