Josh Widdicombe: Not My Cup of Tea

Josh Widdicombe: Not My Cup of Tea

Book now

Be?  Josh Widdicombe ar daith eto?! Erbyn hyn mae’n rhaid ei fod o wedi meistroli celfyddyd comedi byw, naill ai hynny neu mae o wedi gwastraffu 15 mlynedd o’i fywyd!  Dewch draw i benderfynu drosoch eich hun. Bydd y sioe yn fyrrach a heb gymaint o sglein â sioe Eras Taylor Swift, ond yn fwy digrif gyda mwy o gyfeiriadau at de. Mae Josh yn cyflwyno’r podlediad hynod boblogaidd Parenting Hell  gyda Rob Becket, a ddaeth rywsut mor boblogaidd fel bod y ddau wedi mynd ar daith gyda sioeau arena byw yn 2023 a hefyd wedi cyhoeddi llyfr a aeth i frig siartiau llyfrau gorau’r Sunday Times.  Mae Josh wedi cyd-gyflwyno dros 30 cyfres o’r sioe Channel 4 arobryn ‘The Last Leg’, mae o’n gapten tîm ar sioe Rob Beckett’s Smart TV ac yn cyd-gyflwyno Hold the Front Page ar Sky. Mae ganddo gasgliad bron yn gyflawn o lyfrau sticeri pêl-droed Panini.

 

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event