Fel pianydd ac arweinydd band mwyaf poblogaidd y DU, mae Jools Holland OBE wedi perfformio a recordio gyda rhai o gerddorion a chyfansoddwyr gorau’r byd, gan gynnwys Eric Clapton, y diweddar George Harrison a Luther Vandross, Sting, BB King a Paul Weller. Mae Jools yn uchel ei barch nid yn unig fel perfformiwr, ond hefyd yn awdurdod ar bob cerddoriaeth.
Wrth y llyw gyda’r gerddorfa Rhythm & Blues 20 offeryn fydd cyn ddrymiwr Squeeze, Gilson Lavis. Mae Lavis wedi bod yn drymio gyda Jools Holland ers dros 25 mlynedd, ers eu dyddiau SQUEEZE, gyda gwestai arbennig Chris Difford a gwesteion lleisiol Ruby Turner, Louise Marshall a Sumudu Jayatilaka.
Yn ôl yr arfer, mae Jools yn parhau i syfrdanu, ymgysylltu a chreu argraff ar gynulleidfaoedd gyda’i Gerddorfa Rhythm & Blues a’u perfformiadau byw afieithus.