Mae Jane McDonald, seren y sgrin a’r llwyfan a’r gantores benigamp, yn ei hôl gyda thaith newydd ar gyfer 2024.
Yn ‘With All My Love’, bydd Jane yn teithio i fwy nag 20 theatr ac arena ar hyd a lled y DU, yn cynnwys Venue Cymru, yn perfformio eich hoff ganeuon chi, yn ogystal â deunydd newydd gan Jane ei hun.
Yn llawn cariad, swyn a ffraethineb Swydd Efrog, cynnes Jane, ‘With All My Love’ yw eich cyfle chi i dreulio noson gyda thrysor o berfformwraig.
Ers taro’r sgrin deledu tua diwedd y 90au, mae Jane wedi mwynhau pedair albwm yn y 10 uchaf, wedi bod ar sawl taith yn perfformio ac wedi llenwi’r MGM Grand yn Las Vegas. Mae’r enillydd Gwobr BAFTA hefyd wedi cyflwyno sawl rhaglen deledu.