Mae ‘I Wanna Dance with Somebody’ yn ddathliad pwerus a gorfoleddus o fywyd Whitney Houston.
Yn serennu enillydd Gwobr BAFTA® Naomi Ackie, mae’r ffilm yn bortread o’r ferch gymhleth ac amlweddog tu ôl i’r llais.
O ferch côr New Jersey i un o’r artistiaid mwyaf poblogaidd ein hoes, bydd cynulleidfaoedd yn cael eu tywys ar siwrnai ysbrydoledig, deimladwy ac emosiynol drwy fywyd a gyrfa Houston, gyda pherfformiadau anhygoel a sain caneuon mwyaf poblogaidd yr eicon, fel na glywsoch chi nhw o’r blaen. Beth am ddod i ddawnsio?