Enillydd Gwobr Ddrama Orau’r Flwyddyn y Salford Star
Wedi’i hysgrifennu a’i chyfarwyddo gan Joe O’Byrne.
Lloegr, 1953. Gwahoddir y paraseicolegydd enwog o America, Doctor Roy Earle, sy’n enwog am daflu dŵr oer ar hanesion o ysbrydion a datgelu’r gwir am gyfryngwyr ffug, i gymryd rhan mewn seans yn Blaine Manor, yr adeilad sydd â’r mwyaf o fwganod yn Lloegr yn ôl y sôn, adeilad sydd â hanes erchyll.
Mae gan hyd yn oed y trigolion lleol ofn troedio yno, gan y bydd pawb sy'n cerdded o fewn y tiroedd hynny yn cael eu melltithio. Mae ei ddyfodiad i'r maenordy wedi deffro rhywbeth, rhywbeth erchyll o fewn y muriau.
Wrth i storm fawr gau Blaine Manor allan o’r byd, mae Earle a’r lleill yn canfod nad yw’r hyn sydd yno mor arswydus â’r hyn a aeth i mewn gydag ef…