Dewch i fwynhau noson o antur gyffrous – ar y sgrin fawr!
Mae Gŵyl Ffilmiau Mynydd Banff yn cynnwys casgliad newydd sbon o ffilmiau byrion yn llawn teithiau eithafol, cymeriadau gwyllt a sinematograffi cyfareddol. Ymunwch ag anturiaethwyr a gwneuthurwyr ffilmiau antur gorau’r byd wrth iddynt ddringo, sgïo, padlo a reidio i rannau mwyaf gwyllt y blaned!
Gyda gwobrau rhad ac am ddim, dyma ddigwyddiad na ddylid ei golli gan ŵyl ffilmiau mynydd fwyaf fawreddog y byd - bydd yn sicr o danio eich angerdd am antur a theithio!
Antur ddwbl - archebwch docynnau ar gyfer yr Ŵyl Ffilmiau Môr (dydd Gwener 9 Chwefror) ar yr un pryd i gael gostyngiad pris ar docynnau ar gyfer y ddwy ŵyl.
Dangosiad Rhaglen Ffilm Goch 2024 yw hwn. Gweler www.banff-uk.com am ragor o wybodaeth.
Llun gan Atoine Mesnage